Wedi prysurdeb symud tŷ (i Bantperthog), braf oedd cael cymryd seibiant o gario bocsys i ddarllen penillion Carys Briddon am y Leri. Mae cyffyrddiad naturiol iawn i’r penillion triban hyn . . .
Wrth ddilyn hynt ei thaith i’r môr,
Mae gennyf stôr o gofion
Am ddyddiau mebyd na ddaw’n ôl,
Ond oesol ydyw’r afon.
A dyma fi’n cychwyn chwarae gydag alaw . . . jest bras ddarlun ydi hwn felly peidiwch ag ecseitio, bydd hi’n siŵr o newid dros y misoedd nesaf wrth i fi a Siwan ymarfer ac ail-gyfansoddi: